top of page
Search

Cymru a Cwpan y Byd


Aeth dros trigain mlynedd ers i Gymru chwarae yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd, ond mi fyddwn ni yno unwaith eto yn 2022! Gyda'r balchder cenedlaethol, daeth Dafydd Iwan ac Yma o Hyd yn amlwg i'r byd, gyda'r Cymry a'r tîm peldroed yn bloeddio'r gân ar gae Dinas Caerdydd. Rhaid oedd atgyfodi hen gynllun Ni Yma o Hyd, arwyddwyd gan y dyn ei hun, ond wedi addasu'r cynllun ar gyfer Cwpan y Byd 22. Dim ond nifer cyfyngedig iawn fydd yn cael eu hargraffu - bob un â llaw a sgrîn-sidan yn ein gweithdy bach yn Llanboidy. Cadwch lygad allan am ragor o nwyddau'n arbennig ar gyfer yr achlysur hanesyddol hwn. Mwynhewch!


















45 views0 comments
bottom of page