top of page

​

POLISI PREIFATRWYDD

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Shwl Di Mwl yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i Shwl Di Mwl pan fyddwch yn defnyddio'r wefan hon. Mae Shwl Di Mwl wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu.  Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol y gellir ei defnyddio i’ch adnabod tra ydych yn defnyddio'r wefan hon, yna gallwch fod yn sicr mai dim ond yn unol â'r datganiad preifatrwydd hwn y bydd yn cael ei defnyddio. Gall Shwl Di Mwl newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd trwy ddiweddaru'r dudalen hon. Dylech ddarllen y dudalen hon o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau.

 

PRYD YDYM YN CASGLU GWYBODAETH BERSONOL AMDANOCH A BETH RYDYM YN EI GASGLU?

Rydym yn casglu ac yn prosesu data personol pan fyddwch yn:

·        creu cyfrif gyda ni.

·        ymweld â'n gwefan, ac yn defnyddio eich cyfrif i brynu nwyddau neu ddefnyddio talebau ar y ffôn, yn y siop neu ar-lein.

·        prynu ar-lein ac yn talu fel gwestai (ac yn yr achos hwn dim ond data'r taliad rydym yn ei gasglu).

·        gwneud archeb yn y siop neu dros y ffôn ond nad oes gennych gyfrif (neu pan nad ydych yn ei ddefnyddio).

·        ymwneud â ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

·        cysylltu â ni mewn unrhyw ddull i wneud ymholiad, cwyn ac ati.

·        cystadlu mewn cystadlaethau

 

Mae'r math o ddata yr ydym yn ei gasglu yn cynnwys:

·        eich enw, eich cyfeiriad(au) bilio/cludo, archebion ac anfonebau, e-bost a rhif ffôn.

·        manylion unrhyw gwynion neu sylwadau a wnaethoch drwy e-bost, trwy'r ddesg gymorth ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol

·        hanes eich archebion a dewisiadau eich rhestr dymuniad, os oes gennych gyfrif gyda ni

·        gwybodaeth a gasglwyd trwy ddefnyddio cwcis yn eich porwr gwe. I gael rhagor o fanylion gweler yr adran 

·        gwybodaeth dechnegol am eich cysylltiad rhyngrwyd a'ch porwr, y math o ddyfais rydych yn ei defnyddio a'ch dewis iaith

 

Pryd bynnag yr ydym yn casglu neu yn prosesu eich data personol, dim ond cyhyd ag y mae ei angen ar gyfer y diben y'i casglwyd y byddwn yn ei gadw.

Nid ydym yn gwerthu unrhyw wybodaeth bersonol i drydydd partïon. Dydyn ni byth wedi, a fyddwn ni byth yn gwneud. Fodd bynnag rydym yn rhannu eich data gyda chwmnïau megis cwmnïau cludiant a darparwyr gwasanaeth talu er mwyn i ni fedru darparu ein gwasanaethau i chi. 

 

SUT A PHAM RYDYM YN DEFNYDDIO EICH DATA PERSONOL

Rydym eisiau rhoi'r profiad cwsmer gorau posibl i chi.

Mae cyfraith preifatrwydd data yn caniatáu hyn fel rhan o'n ddiddordeb dilys ni mewn deall ein cwsmeriaid a darparu'r lefelau gorau o wasanaeth.

Gallwch ofyn am ddileu eich data ond os byddwch yn dewis peidio â rhannu eich data personol gyda ni, neu yn gwrthod rhai hawliau cysylltu, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt.

Dyma sut rydym yn defnyddio eich data personol a pham:

·        I brosesu unrhyw archebion a wnewch ar ein gwefan neu dros y ffôn. Os nad ydym yn casglu eich data personol pan fyddwch yn talu, ni fyddwn yn gallu prosesu eich archeb.

·        Efallai y bydd angen trosglwyddo eich data i drydydd parti i gyflenwi neu ddanfon y nwydd yr ydych wedi ei archebu, a gallwn gadw'r manylion am gyfnod rhesymol wedyn i sicrhau bod yr archeb yn cael ei chwblhau ac i wneud ad-daliadau pe bai angen.

·        I ymateb i'ch ymholiadau, i geisiadau am ad-daliad ac i gwynion. Gallwn gadw cofnod o'r rhain at ddibenion cadw cofnodion mewnol ac i wneud gwelliannau i'n gwasanaethau.

·        I ddiogelu ein busnes a'ch cyfrif rhag twyll a gweithgareddau anghyfreithlon eraill. Mae hyn yn cynnwys defnyddio eich data personol i gynnal, diweddaru a diogelu eich cyfrif. Byddwn hefyd yn monitro eich gweithgarwch pori gyda ni i nodi a datrys unrhyw broblemau a diogelu uniondeb ein gwefan yn gyflym. Byddwn yn gwneud hyn i gyd fel rhan o'n diddordeb dilys e.e. drwy wirio eich cyfrinair pan fyddwch yn mewngofnodi a thrwy ddefnyddio dull awtomatig o fonitro cyfeiriadau IP i nodi mewngofnodion twyllodrus posibl o leoliadau annisgwyl.

·        I brosesu taliadau ac atal taliadau twyllodrus.

·        Gyda'ch caniatâd chi, i roi gwybod i chi drwy e-bost am nwyddau a gwasanaethau perthnasol, gan gynnwys cynigion arbennig, gostyngiadau, digwyddiadau, cystadlaethau ac ati. 
Mae croeso i chi derfynu eich tanysgrifiad i'n cylchlythyr ar unrhyw adeg. Gellir gwneud hyn trwy ddefnyddio'r ddolen 'dad-danysgrifio' ar waelod unrhyw e-bost hyrwyddo a anfonwyd gan Shwl Di Mwl.

·        I weinyddu unrhyw wobrau neu gystadlaethau yr ydych wedi cystadlu ynddynt.

 

DIOGELWCH A CHWCIS

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgelu dim amdanoch heb ganiatâd, rydym wedi rhoi gweithdrefnau corfforol, electronig a rheolaethol addas ar waith i ddiogelu ac i sicrhau'r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ar-lein.

Rydym yn defnyddio Pay Pal i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn anhygyrch i ddefnyddwyr eraill y rhyngrwyd.

Mae ein gwefan wedi’i gynnal ar blatfform Wix.com. Mae Wix.com yn darparu platfform ar-lein i ni sy’n ein galluogi i werthu ein nwyddau i chi. Mae’n bosib y caiff eich data ei stori trwy systemau storio data Wix.com ac apiau cyffredinol Wix.com. Mae’r data hyn yn cael ei storio ar weinyddion diogel y tu ôl i fur gwarchod.


Mae pob un o’r dulliau talu a gynigir gan Wix.com ac sy’n cael ei defnyddio gennym ni yn cydymffurfio a’r safonau a osodir gan y PCI-DSS ac yn cael eu rheoli gan y Cyngor Safonau Diogelwch PCI.  Mae gofynion PCI-DSS yn helpu sicrhau bod manylion cardiau credyd yn cael eu prosesu’n ddiogel.

 

SUT RYDYM YN DEFNYDDIO CWCIS

Ffeil fach yw cwci sy'n gofyn am ganiatâd i gael ei rhoi ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith y byddwch yn cytuno, ychwanegir y ffeil a bydd y cwci yn helpu i ddadansoddi traffig ar y we neu'n eich galluogi i wybod pan fyddwch chi'n ymweld â safle penodol. Mae cwcis yn caniatáu i raglenni gwe ymateb i chi fel unigolyn. Gall y rhaglen we deilwra'i gweithrediadau i'ch anghenion, i’r hyn yr ydych yn ei hoffi a ddim yn ei hoffi trwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.

Rydym yn defnyddio cwcis cofnodi traffig i nodi pa dudalennau sy'n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data am draffig ar ein tudalennau gwe ac i wella ein gwefan er mwyn ei theilwra i anghenion cwsmeriaid. Dim ond at ddibenion dadansoddi ystadegol y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon ac yna caiff y data ei dynnu o'r system.

Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein cynorthwyo i gynnig gwefan well i chi, trwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy'n ddefnyddiol i chi a pha rai nad ydych chi'n eu hoffi. Nid yw cwci mewn unrhyw ffordd yn rhoi mynediad i ni i'ch cyfrifiadur nac at unrhyw wybodaeth amdanoch chi, heblaw am y data rydych chi'n dewis ei rannu gyda ni. Gallwch ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu gosodiad eich porwr i wrthod cwcis os yw'n well gennych. Gall hyn eich atal rhag manteisio'n llawn ar y wefan.

RHEOLI EICH MANYLION PERSONOL

Efallai y byddwch yn dewis cyfyngu ar sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei chasglu a’i defnyddio yn y ffyrdd canlynol:

·        pryd bynnag y gofynnir i chi lenwi ffurflen ar y wefan, edrychwch am y blwch y gallwch ei glicio i nodi nad ydych am i'r wybodaeth gael ei defnyddio gan unrhyw un at ddibenion marchnata uniongyrchol

·        os ydych eisoes wedi cytuno i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol, fe allwch chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu neu anfon e-bost atom sales@shwldimwl.cymru

 

Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti oni bai bod gennym eich caniatâd chi i wneud hynny neu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.  Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hyrwyddo atoch am drydydd parti y byddai gennych chi ddiddordeb ynddynt, yn ein barn ni, os ydych chi'n dweud wrthym eich bod yn dymuno i hyn ddigwydd.

Gallwch ofyn am fanylion y wybodaeth bersonol sydd gennym ni amdanoch dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd ffi fechan yn daladwy. Os hoffech gael copi o'r wybodaeth a gadwir amdanoch, ysgrifennwch at Shwl Di Mwl, Sarnau, Llanboidy, Hen Dy Gwyn, Sir Gaerfyrddin, SA34 0EX

Os credwch fod unrhyw wybodaeth sydd gennym ni amdanoch yn anghywir neu'n anghyflawn, ysgrifennwch atom neu anfonwch e-bost atom cyn gynted ag y bo modd, yn y cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth y gwelir ei bod yn anghywir yn brydlon.

Gall Shwl Di Mwl newid y polisi preifatrwydd trwy ddiweddaru’r dudalen hon. Gwiriwch y dudalen hon er mwyn sicrhau eich bod yn hapus gyda’r newidiadau hyn.

 

 

Privacy Policy

This privacy policy explains how Shwl Di Mwl collects, uses and protects any personal information that you give us when you interact with us online. We are committed to ensuring that your privacy is protected.

 

WHEN DO WE COLLECT YOUR PERSONAL INFORMATION AND WHAT do WE COLLECT?

We collect and process personal data when you:

·        create an account with us.

·        visit our website and use your account to buy products or redeem vouchers on the phone, in the shop or online.

·        make an online purchase and check out as a guest (in which case we only collect transaction-based data).

·        place an order in store or by phone but don’t have (or don’t use) an account.

·        engage with us on social media.

·        contact us by any means with queries, complaints etc.

·        enter prize draws or competitions.

 

The kind of data we collect includes:

·        your name, billing/delivery address(es), orders and receipts, email and telephone number.

·        details of any complaints or comments made by email, via the online helpdesk or social media

·        your order history and wish list choices, if you have an account with us

·        information gathered using cookies in your web browser. 

·        technical information about your internet connection and browser, the type of device you use and your preferred language

 

Whenever we collect or process your personal data, we’ll only keep it for as long as is necessary for the purpose for which it was collected.

We do not sell any personal information to third parties. Never have, and never will. However, we do share your data with companies such as delivery companies and payment service providers so that we can provide our services to you. 

 

HOW AND WHY DO WE USE YOUR PERSONAL DATA

We want to give you the best possible customer experience.

The data privacy law allows this as part of our legitimate interest in understanding our customers and providing the highest levels of service.

You can request your data to be deleted but if you choose not to share your personal data with us, or refuse certain contact permissions, we might not be able to provide some services you’ve asked for.

Here’s how we’ll use your personal data and why:

·        To process any orders that you make by using our website, by phone or in store. If we don’t collect your personal data during checkout, we won’t be able to process your order.

·        Your details may need to be passed to a third party to supply or delivery the product you ordered, and we may keep the details for reasonable period afterwards to ensure the order is completed and fulfil refunds if needed.

·        To respond to your queries, refund requests and complaints. We may keep a record of these for internal record keeping and make improvements to our services.

·        To protect our business and your account from fraud and other illegal activities. This includes using your personal data to maintain, update and safeguard your account. We’ll also monitor your browsing activity with us to quickly identify and resolve any problems and protect the integrity of our websites. We’ll do all of this as part of our legitimate interest e.g by checking your password when you login and using automated monitoring of IP addresses to identify possible fraudulent log-ins from unexpected locations.

·        To process payments and to prevent fraudulent transactions.

·        With your consent, to keep you informed by email about relevant products and services including special offers, discounts, promotions, events, competitions and so on. 
You are free to unsubscribe from our newsletter at any time. This can be done by logging in to your account and updating your preferences or using the ‘unsubscribe’ link at the bottom of any promotional email sent by Shwl Di Mwl

·        To administer any of our prize draws or competitions which you enter.

 

SECURITY AND COOKIES

We are committed to ensuring that your information is secure. In order to prevent unauthorised access or disclosure, we have put in place suitable physical, electronic and managerial procedures to safeguard and secure the information we collect online.

Our company is hosted on the Wix.com platform. Wix.com provides us with the online platform that allows us to sell our products and services to you. Your data may be stored through Wix.com’s data storage, databases and the general Wix.com applications. They store your data on secure servers behind a firewall. 

All direct payment gateways offered by Wix.com and used by our company adhere to the standards set by PCI-DSS as managed by the PCI Security Standards Council, which is a joint effort of brands like Visa, MasterCard, American Express and Discover. PCI-DSS requirements help ensure the secure handling of credit card information by our store and its service providers.

 

HOW WE USE COOKIES

Cookies are tiny text files stored on your computer when you visit certain web pages, which we use to keep track of what you have in your basket, and to remember you when you return to our site.

They help us provide you with a better website, by enabling us to monitor which pages you find useful and which you do not. A cookie in no way gives us access to your computer or any information about you, other than the data you choose to share with us. You can choose to accept or decline cookies. Most web browsers automatically accept cookies, but you can usually modify your browser setting to decline cookies if you prefer. This may prevent you from taking full advantage of the website.

 

Questions and our contact information

If you would like to: access, correct, amend or delete any personal information we have about you, you are invited to contact us at sales@shwldimwl.cymru or phone us on 01994 448 626.

Shwl Di Mwl may change this policy from time to time by updating this page. You should check this page from time to time to ensure that you are happy with any changes.

bottom of page